Mynydd Seion Casnewydd

Hafan Cysylltu Yr Achos Heddiw Oedfaon Hanes Diweddar Y Ddolen Defosiwn O'r Gorffennol Er Mwyn ein Plant Dolenni

Er Mwyn ein Plant

POLISI EGLWYS MYNYDD SEION

Ein polisi yw diogelu lles pob plentyn ac unigolyn ifanc drwy'i amddiffyn rhag esgeulustod, a rhag niwed corfforol, rhywiol ac emosiynol.

Fel Eglwys yr ydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu lles ein haelodau a'r rhai a ymddiriedir i'n gofal.

Disgwylir i aelodau Mynydd Seion, gweithwyr cyflog a gweithwyr gwirfoddol bob amser ddangos parch at hawliau plant a dealltwriaeth ohonynt, gan hybu ethos o wrando ar blant ac o sicrhau eu diogelwch a'u lles, gan ymddwyn mewn modd fydd yn adlewyrchu egwyddorion yr Eglwys Gristnogol.

Byddwn yn trin pob plentyn ac unigolyn ifanc a pharch ac urddas.

Byddwn bob amser yn barod i wrando ar blant heb eu beirniadu.

Gweithiwn i adeiladu perthynas iach a phlant a phobl ifanc ac i fod yn batrwm ymddygiad, gan osod esiampl dda.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu goruchwilio bob amser.

Ni fydd gweithiwr gwirfoddol na gweithiwr cyflogedig yn gweithio ar eu pennau eu hunain:

0-2 oed - 1 aelod o staff i 3 o blant
2-3 oed - 1 aelod o staff i 4 o blant
3-7 oed - 1 aelod o staff i 4 o blant
8 oed a throsodd - 2 aelod o staff (o ddewis un o bob rhyw) ar gyfer hyd at 20 o blant a phobl ifanc. 1 aelod ychwanegol o staff ar gyfer pob 10 o blant a phobl ifanc ychwanegol