Mynydd Seion Casnewydd

Hafan Cysylltu Yr Achos Heddiw Oedfaon Hanes Diweddar Y Ddolen Defosiwn O'r Gorffennol Er Mwyn ein Plant Dolenni

Nod Cenhadol

Cynnal a hyrwyddo'r dystiolaeth Gristnogol Gymraeg yng Nghasnewydd a'r cyffiniau.

Ceisiwn wneud hyn

trwy gyfrwng oedfaon wythnosol
addoliad deallus a pherthnasol
Ysgol Sul rheolaidd i'r plant a'r bobl ifanc
bod yn gynnes ein croeso i ymwelwyr
gweithgareddau cymdeithasol i ddwyn pobl ynghyd
rhoi'r adeilad at wasanaeth mudiadau, cymdeithasau ac ysgolion Cymraeg y cylch

Hanes Diweddar y Capel

O'r tu allan, mae'r capel yn blaen ac yn nodweddiadol o gapeli Anghydffurfiol trwy Gymru. Tu fewn, mae'r capel yn atyniadol iawn.

Mae'n werth nodi bod llawer o aelodau'r capel wedi bod yn flaenllaw yn yr ymgyrch i sefydlu ysgolion Cymraeg - yn wirfoddol yn y lle cyntaf ac yn fwy diweddar, ysgolion meithrin, cynradd a chyfun. Gallwn ni ddweud bod Mynydd Seion wedi bod yn ynys o Gymreictod yn ne Gwent.

Rydym yn eglwys o tua 50 o aelodau ac mae yma gymdeithas glos a chyfeillgar. Mae'n nodwedd arbennig o'r Suliau bod y gynulleidfa yn aros yn y capel ar ôl y gwasanaeth i gymdeithasu.

Mae'r capel wedi bod yn ffodus iawn gyda'n gweinidogion diweddar. Roedd y Parchedig Huw Ethall yn weinidog rhan amser am ryw bum mlynedd ac yr oedd yn boblogaidd iawn
yn enwedig gyda'n plant. Ar ôl Huw, roedd y Parchedig Shem Morgan yn weinidog rhan amser ac yr oedd ef yn llwyddiannus iawn er mai'r hen gapel hanesyddol Llanfaches oedd ei brif gyfrifoldeb. Er 1996 y Parchedig Allan Pickard sydd wedi bod yn fugail i ni.
                                                                                                                            
Cynhelir Ysgol Sul bob Sul ar gyfer y plant, ac maent yn cyfrannu i'r oedfaon gyda'u hadnodau a'u hymateb i stori'r pregethwr ar y Sul.

 

Mae'r capel yn cyhoeddi cylchlythyr pob mis, Y Ddolen - sydd yn help mawr i rannu gwybodaeth am beth sydd yn mynd ymlaen, pwy sy'n dost, a.y.b. a hefyd i gadw mewn cyswllt â ffrindiau, ac yn enwedig gyda chyn aelodau sydd wedi gadael yr ardal. Mae'r wefan hon hefyd yn rhoi cyfle i gylch ehangach wybod amdanom.

Gwneir defnydd helaeth o'r gegin newydd a agorwyd yn Hydref 2002, ac ym mis Medi 2007 adnewyddwyd y sustem gwres canolog.   

                     

Mae digon o bobl wedi rhagweld dirywiad Mynydd Seion yn y gorffennol ond mae'r defodau angladdol yn gynamserol! Mae digon o fywyd yn yr hen achos yma ac fel mater o ffaith, mae digon o obaith am ddyfodol y capel ymysg yr aelodaeth.

 

Mae ysbryd newydd a bendith newydd ym Mynydd Seion heddiw.

Mosaic a gomisynwyd yn arbennig i nod dengmlwyddiant gweinidogaeth Y Parchg Allan Pickard ym Mynydd Seion