|
Capel Cymraeg yw Mynydd Seion yng nghanol dinas
Casnewydd. Mae'r capel yn Hill Street, un o'r rhiwiau serth sy'n arwain o
Commercial Street i gyfeiriad Stow Hill a'r Eglwys Gadeiriol.
Sefydlwyd yr achos yn 1835 a bu'r capel yn gartref ysbrydol i gannoedd o
deuluoedd dros y blynyddoedd.
Er yn perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg y mae pobl o wahanol draddodiadau
enwadol wedi
ymgartrefu ym Mynydd Seion dros y blynyddoedd.
Y mae dau beth yn ein clymu ni at ein gilydd: ein ffydd Gristnogol a'n hawydd i
addoli Duw drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Oherwydd prinder achosion Cymraeg yn y De Ddwyrain erbyn hyn, mae dalgylch y
capel yn eang iawn, ac mae mwyafrif yr aelodau yn gorfod teithio rhai
milltiroedd i ddod i'r capel.
Ar y Sul cynhelir oedfa am 10.30 o'r gloch ac Ysgol Sul i'r plant.
Ar fore Mercher cyntaf y mis (yn arferol) cynhelir Clwb y Gegin sy'n gyfle i
aelodau a chyfeillion alw heibio am baned a sgwrs a hyd yn oed ginio. Cynhelir
oedfa fer yn ystod y cyfarfod.
Byddwn yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol yn achlysurol.
O bryd i'w gilydd bydd Cymdeithas Cymry Casnewydd yn cynnal cyfarfodydd yn y
capel.
Felly hefyd cangen leol Merched y Wawr.
Daw disgyblion Ysgol Gymraeg Casnewydd i gynnal gwasanaethau yn y capel ar
adegau arbennig o'r flwyddyn.
Er nad ydym yn eglwys niferus yr ydym yn gwmni cyfeillgar a chlos, sy'n
cyd-ymdrechu i gynnal y
dystiolaeth Gristnogol Gymraeg.
Dewch i weld dros eich hunan ac fe gewch groeso.
Cynllun Datblygu 1 Cynllun
Datblygu 2 Cynllun Datblygu 3
|